FAQs
Er mwyn cofrestru ar gyfer y system Cyswllt Dyfed-Powys newydd, mae angen ichi lenwi ffurflen gofrestru ar-lein a fydd yn ein helpu i dargedu ein gwybodaeth atoch.
Yn ystod y broses gofrestru ac yn eich ardal weinyddu, bydd gennych gyfle i adolygu a dewis darparwyr gwybodaeth trwyddedig ychwanegol a fydd yn gallu gweld eich data ac anfon negeseuon atoch os fyddwch chi’n awdurdodi hyn. Er nad yw’r holl ddarparwyr gwybodaeth a restrir yn defnyddio’r system ar hyn o bryd, byddwch chi’n cael eich hysbysu unwaith y byddant yn dechrau ei defnyddio. Gallwch ddileu unrhyw ddarparwr gwybodaeth ar unrhyw adeg.
Na. Yr unig gyfathrebu a wnawn gyda chi fydd drwy e-bost Cyswllt Dyfed-Powys ac ymgynghoriad achlysurol drwy e-bost.
Cewch ymwrthod â’r system gyfan neu ddiweddaru eich gosodiadau er mwyn cyflunio’r mathau o negeseuon rydych chi eisiau eu derbyn a dileu’r rhai dydych chi ddim eisiau. Mae gan negeseuon e-bost o’r system Cyswllt Dyfed-Powys ddolen ar y gwaelod i ‘newid gosodiadau’; cliciwch ar y ddolen hon i adolygu eich gosodiadau a’u diweddaru.
Mae’r system Cyswllt Dyfed-Powys yn ein galluogi i anfon negeseuon drwy wasanaethau testun a ffôn, fodd bynnag, byddwn ni ond yn cysylltu’n rheolaidd â chi drwy e-bost, felly mae’n bwysig eich bod chi’n cynnwys cyfeiriad e-bost. Ar adegau prin iawn, pan fyddwn angen anfon gwybodaeth atoch mewn argyfwng, efallai byddwn ni’n defnyddio’r gwasanaethau testun a ffôn. Os na fyddwch chi’n cynnwys cyfeiriad e-bost, ni fyddwch chi’n derbyn unrhyw negeseuon wrthym. Hefyd, efallai bydd cydlynydd Hysbysu’n cysylltu â chi os na fydd eich cyfeiriad e-bost ar gael am unrhyw reswm.
Gallwch. Rydyn ni’n croesawu eich sylwadau a’ch barn. Cliciwch ar y ddolen ‘ateb’ mewn neges a byddwn ni’n anfon eich ateb at yr unigolyn a anfonodd y neges atoch a’ch tîm plismona lleol. Fodd bynnag, peidiwch ag adrodd am droseddau a digwyddiadau eraill sy’n mynd rhagddynt drwy ateb e-bost. Os ydych chi eisiau adrodd am drosedd neu ddigwyddiad wrthym, gallwch ddefnyddio ein system adrodd ar-lein drwy ein tudalen Cysylltu â ni ar wefan Heddlu Dyfed-Powys.
Ydyn. Mae pob e-bost yn cael ei ddarllen a’i weithredu’n briodol. Weithiau, ni fyddwn yn ateb os mai ond gwybodaeth rydych angen ei drosglwyddo i ni at ein sylw. Hyd yn oed os na fyddwch chi’n clywed wrthym yn uniongyrchol, byddwch yn dawel eich meddwl y bydd popeth yr anfonwch atom yn cael ei adolygu.
Na. Ni fydd tanysgrifwyr eraill yn gweld eich manylion
Nid yw’r e-byst hyn yn gyfrinachol, ac mae croeso ichi gyflwyno eraill i’r cynllun. Fe’ch cynghorwn i ddileu unrhyw fanylion personol nad ydych eisiau eu rhannu, megis cyfeiriadau e-bost.
Cewch. Defnyddiwch y dolenni ar waelod yr e-bost Cyswllt Dyfed-Powys, neu ewch i’ch manylion cyfrif ar wefan Dyfed-Powys yn Cysylltu.
Na. Mae tanysgrifio i Cyswllt Ddyfed-Powys am ddim. Ni chodir costau a ffioedd eraill.
Na. Ni fydd y system hon yn disodli unrhyw gynlluniau Gwarchod Cymdogaeth. Ein gobaith yw y bydd yn ategu mentrau a chynlluniau sy’n bodoli eisoes. Mae Cyswllt Dyfed-Powys yn gysylltiedig â'r system 'Ein Gwyliadwriaeth' Gwarchod Cymdogaeth genedlaethol. Bydd yn gwella'r ffordd y mae'r heddlu a chynlluniau Gwarchod yn gallu cyfathrebu â’i gilydd a chynorthwyo ei gilydd.
Na. Nid bwriad Cyswllt Dyfed-Powys yw derbyn gwybodaeth am droseddau. Os ydych chi eisiau rhoi gwybod inni am drosedd neu ddigwyddiad, gallwch ddefnyddio ein system adrodd ar-lein drwy ein tudalen Cysylltu â ni ar wefan Heddlu Dyfed- Powys. Cewch hyd i gyngor ac arweiniad ar amrywiaeth o bynciau ar ein gwefan.
Na. Mewn argyfwng, dylech alw 999 bob amser. Argyfwng yw pan mae perygl o anaf difrifol, perygl o ddifrod difrifol i eiddo, lle rydych yn amau bod trosedd ar waith neu os oes digwyddiad difrifol sydd angen presenoldeb yr heddlu ar unwaith. Ar gyfer materion difrys, galwch 101. Nid yw negeseuon yn cael eu monitro 24 awr y dydd.