Amdanom Ni
Mae cymunedau Dyfed-Powys yn chwarae rhan allweddol o ran ein helpu i atal a datrys troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Drwy gydweithio, gallwn sicrhau bod Dyfed-Powys yn parhau fel y lle mwyaf diogel yng Nghymru a Lloegr i fyw a gweithio.
Gwasanaeth negeseuon e-bost am ddim i’r rhai sy’n byw a gweithio yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys yw Cyswllt Dyfed-Powys. Drwy gofrestru, byddwch chi’n derbyn hysbysiadau drwy e-bost ar gyfer eich ardal leol am droseddau, ymddygiad gwrthgymdeithasol, digwyddiadau, negeseuon atal a mwy. Byddwch chi hefyd yn clywed am gamau gweithredu cadarnhaol gan yr heddlu a straeon newyddion da, ac yn chwarae rhan weithredol o ran cymryd rhan mewn arolygon lleol i’n helpu i nodi beth allai’ch blaenoriaethau plismona lleol fod.
Mae cofrestru am ddim, yn syml, ac yn hawdd. Unwaith y byddwch wedi dilysu eich cyfrif drwy’r e-bost dilysu, bydd gennych fynediad ar unwaith at Cyswllt Dyfed-Powys. Bydd gennych reolaeth o’ch holl fanylion personol a gallwch ddewis pa fath o hysbysiadau yr hoffech glywed amdanynt. Byddwch chi ond yn derbyn hysbysiadau am bynciau rydych chi wedi’u dewis. Gallwch newid a rheoli eich dewisiadau neu stopio derbyn negeseuon ar unrhyw adeg.
Noder: Ni ddylid defnyddio’r gwasanaeth hwn i adrodd am unrhyw drosedd neu ddigwyddiad wrthym.
Cewch gyngor ac arweiniad ar amrywiol destunau ar ein gwefan Heddlu Dyfed-Powys
Os hoffech adrodd am drosedd neu ddigwyddiad wrthym, cewch ddefnyddio ein system adrodd ar-lein. Cysylltu â ni Mewn argyfwng, galwch 999 bob amser.