|
Mae Masnachwyr Twyllodrus yn gweithredu yn eich ardal felly diogelwch eich hun rhag ddioddef twyll • Os ydych yn eu hamau, cadwch nhw allan o’ch cartref. • Peidiwch ag arwyddo unrhyw beth yn y fan a’r lle. • Gofynnwch am gerdyn adnabod bob tro, a ffoniwch y cwmni er mwyn gwirio hunaniaeth galwyr gan ddefnyddio rhif ffôn o’r llyfr ffôn. • Peidiwch â chael eich twyllo gan dechnegau gwerthu. • Edrychwch o gwmpas er mwyn sicrhau’r pris gorau. • Darllenwch yr ysgrifen mân a gwiriwch y ffeithiau. • Siaradwch â rhywun rydych yn ymddiried ynddynt er mwyn cael ail farn. • Peidiwch â thalu unrhyw swm o arian cyn iddynt gychwyn ar y gwaith. • Meddyliwch yn ofalus cyn ichi gytuno bod masnachwr yn cychwyn ar unrhyw waith yn syth. • Dilynwch eich greddf - os yw cynnig i’w weld yn rhy dda i fod yn wir, fwy na thebyg dyna beth yw e! • Ac yn olaf ... does dim o’i le ar ddweud na. Cofiwch - eich carreg drws chi ydyw, a’ch penderfyniad chi ydyw. Os ydych yn teimlo dan bwysau, gofynnwch iddynt adael.
Am ragor o gyngor a gwybodaeth, galwch heibio i’n gwefan www.dyfed-powys.police.uk neu galwch 101.
Am wybodaeth a chyngor gan Safonau Masnach, galwch 01267 234567 ac ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Gaerfyrddin, galwch 01267 234567.
|