|
||
|
|
||
|
||
|
GWAHODDIAD: Sioe Deithiol Am Ddim Canolfan Seiberwydnwch Cymru |
||
|
Ymunwch â ni ar gyfer cynhadledd am ddim sy’n anelu i helpu busnesau yn ardal Dyfed-Powys drwy gryfhau eu seibergadernid.
Mae bygythiadau seiber yn esblygu’n gyflym, ac mae busnesau o bob maint mewn perygl. P’un a ydych chi’n unig fasnachwr, BBaCH, elusen, neu sefydliad mwy, nid yw deall sut i ddiogelu eich busnes rhag troseddau seiber erioed wedi bod mor bwysig.
Ymunwch â ni am gynhadledd am ddim sy’n anelu i helpu busnesau lleol yn ardal Dyfed-Powys, cryfhau eich seibergadernid, diogelu eich data, ac ymateb yn effeithiol i fygythiadau digidol sy’n dod i’r amlwg.
Cewch glywed gan arbenigwyr diogelwch seiber, Heddlu Dyfed-Powys, arbenigwyr diwydiant, a Nigel Owens, wrth iddyn nhw rannu cyngor ymarferol a chamau syml y gallwch eu cymryd i wella diogelwch eich sefydliad.
Mae seibergadernid yn ymwneud â mwy na thechnoleg. Mae’n ymwneud â sicrhau bod eich busnes yn medru parhau i weithredu, addasu, ac adfer pan mae’n wynebu heriau seiber. Bydd y digwyddiad hwn yn darparu gwybodaeth ymarferol, cysylltiadau gwerthfawr, a chamau y gellir eu rhoi ar waith i helpu i gadw’ch sefydliad yn ddiogel.
Bydd y prynhawn yn cynnwys prif siaradwyr, sesiynau arbenigol, cyngor ymarferol a chyfleoedd i rwydweithio.
Dyddiad: 17 Medi 2026
Mae llefydd am ddim ond mae’n rhaid ichi archebu eich lle. Cofrestrwch heddiw drwy: https://www.eventbrite.com/e/wales-cyber-resilience-centre-roadshow-tickets-1993539116161?aff=oddtdtcreator
| ||
Reply to this message | ||
|
|






