|
||
|
|
||
|
||
|
Gwahoddiad: Sioe Deithiol Am Ddim Canolfan Seiberwydnwch Cymru |
||
|
Annwyl Gydweithiwr,
Mae’n dda iawn gennyf eich gwahodd i Sioe Deithiol Am Ddim Canolfan Seiberwydnwch Cymru, a gyflwynir mewn partneriaeth â Chanolfan Seiberwydnwch Cymru a Llywodraeth Cymru, sy’n dod â busnesau a sefydliadau o bob cwr o Gymru at ei gilydd.
Bydd y prynhawn yn cynnwys prif siaradwyr, sesiynau arbenigol, cyngor ymarferol a chyfleoedd ar gyfer rhwydweithio, a bydd pawb sy’n bresennol yn derbyn cinio a lluniaeth am ddim.
Cewch glywed gan arbenigwyr diogelwch seiber, Heddlu Dyfed-Powys, arbenigwyr diwydiant, a’r darlledwr Nigel Owen, wrth iddynt rannu profiadau go iawn, y bygythiadau diweddaraf, a chanllawiau ymarferol y gallwch eu rhoi ar waith.
P’un a ydych chi’n unig fasnachwr, elusen, BBaCH, neu sefydliad mwy, cewch fewnwelediad gwerthfawr, y cyfle i holi cwestiynau, a chysylltu ag eraill sydd wedi ymrwymo i wella diogelwch seiber ar draws y rhanbarth.
Bydd y prynhawn yn cynnwys prif siaradwyr, sesiynau arbenigol, cyngor ymarferol a chyfleoedd i rwydweithio. Dyddiad: 17 Medi 2026 Mae llefydd am ddim ond mae’n rhaid ichi archebu eich lle.
Cofrestrwch heddiw drwy: https://www.eventbrite.com/e/wales-cyber-resilience-centre-roadshow-tickets-1993539116161?aff=oddtdtcreator
Edrychaf ymlaen at eich croesawu ar 17 Medi. Cofion gorau, Comisiynydd Heddlu a Throseddu
| ||
Reply to this message | ||
|
|






