|
||
|
|
||
|
||
|
Cyngor Diogelwch Dwr |
||
|
Mae'r tywydd cynnes bellach arnom, ac rydym yn byw mewn ardal sydd wedi'i hamgylchynu gan ffynonellau dŵr hardd. Mae'r arfordir ac ardaloedd fel Llyn Brianne a Phyllau Teifi, ynghyd ag afonydd lleol bron ar garreg ein drws, fodd bynnag, rydym yn annog bod yn ofalus wrth fynd i ardaloedd dŵr agored. Cofiwch, er ei fod yn ymddangos yn dawel ac yn groesawgar, fod dŵr agored yn peri peryglon mawr gydag amodau a cherhyntau’n gallu newid yn gyflym, a gallai hyn fod yn beryglus iawn. Cymerwch eiliad i glicio ar y dolenni isod am ragor o wybodaeth: Cyngor a Chynghorion Diogelwch Nofio Dŵr Agored yr RNLI Un Anadl Olaf | Dŵr Cymru Welsh Water Cymerwch eiliad hefyd i wirio gyda chymdogion oedrannus yn y tywydd poeth.
| ||
Reply to this message | ||
|
|






