|
Mae gorchymyn gwasgaru o dan Adran 35 Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 wedi’i awdurdodi ar gyfer yr ardal, sy’n cwmpasu Canol Tref Ystradgynlais a Pharc Diemwnt. Mae’r gorchymyn mewn grym ar gyfer mynd i’r afael ag adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol a helpu i sicrhau diogelwch a lles y gymuned. Bydd y gorchymyn yn cychwyn am 6 o’r gloch nos Wener 10 Ebrill ac yn para tan 6 o’r gloch nos Sul 12 Ebrill. Mae’r gorchymyn yn rhoi’r pŵer i swyddogion heddlu lifrog/swyddogion cefnogi cymunedol yr heddlu wahardd rhywun o ardal am gyfnod hyd at 48 awr drwy gyhoeddi hysbysiad ysgrifenedig. Mesur ataliol yw’r pŵer sy’n galluogi swyddog i ymdrin ag ymddygiad rhywun yn gyflym cyn iddo ddwysáu. Bydd hefyd yn galluogi swyddogion i atafaelu eitemau y gellid eu defnyddio mewn modd gwrthgymdeithasol. Rydyn ni’n gofyn i rieni a gwarcheidwaid sicrhau eu bod nhw’n gwybod ble mae eu plant a beth maen nhw’n ei wneud fel bod pawb yn medru teimlo’n ddiogel yn ein cymuned. Bydd ein swyddogion yn bresennol yn yr ardal leol drwy gydol y penwythnos i roi tawelwch meddwl ac ymateb i unrhyw broblemau a allai godi. Diolch am eich cefnogaeth. |