|
||
|
|
||
|
||
|
Diogelwch ar-lein |
||
|
GWYBODAETH DIOGELWCH AR-LEIN. Mae yna rai camau syml y gallwch eu cymryd i'w gwneud hi'n anoddach i rywun hacio'ch cyfrifon neu ddyfeisiau ar-lein. Mae cyngor ar hyn ar gael ar-lein yn y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol. Dylech chi bob amser atal mynediad drwy ddefnyddio cyfrineiriau a/neu ddilysu biometrig (olion bysedd neu 'adnabod wyneb'). Mae'n bwysig newid eich cyfrineiriau, yn enwedig os ydych chi'n meddwl eu bod nhw'n hysbys i bobl eraill. Os ydych chi'n credu eich bod wedi cael eich hacio, dylech chi gasglu unrhyw dystiolaeth ar eich dyfais os yw'n ddiogel gwneud hynny a'i hadrodd i Action Fraud. Dyma ganolfan adrodd genedlaethol yr heddlu ar gyfer twyll a throseddau seiber. Yn ogystal â chyfeirio at ganllawiau'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol ar adfer cyfrif ar-lein os yw wedi cael ei hacio, mae darparwyr cyfryngau cymdeithasol hefyd yn darparu eu cyngor eu hunain. Os ydych chi wedi colli mynediad i gyfrif cyfryngau cymdeithasol neu reolaeth drosto, yna gall eich darparwr gwasanaeth hefyd helpu. Ar ôl i chi gadarnhau eich hunaniaeth, mae'n gymharol hawdd newid eich cyfrinair ar gyfer cyfrif cyfryngau cymdeithasol. Lle bo'n bosibl, rydym hefyd yn argymell galluogi dilysu dau ffactor. Mae 2FA yn ychwanegu diogelwch ychwanegol at eich cyfrifon ar-lein. Mae'n cadarnhau bod mewngofnod yn ddilys trwy ail ddyfais. Er enghraifft, trwy god sy'n cael ei anfon at eich ffôn. Byddwch yn fwy diogel os byddwch yn sefydlu 2FA ar eich holl gyfrifon pwysig fel e-bost, siopa ar-lein yn ogystal â chyfryngau cymdeithasol. | ||
Reply to this message | ||
|
|





