|
||
|
|
||
|
||
|
Apêl am gymorth yn dilyn lladrad preswyl |
||
|
APÊL | Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am gymorth y cyhoedd yn dilyn lladrad preswyl yn ardal Llangoedmor. Rywbryd rhwng 4.30am a 3.40pm ddydd Gwener, 16 Ionawr 2026, aethpwyd i mewn i eiddo ym mhentref Llangoedmor ger Aberteifi, a dwynwyd eiddo gan gynnwys arian parod a thybaco. Dywedodd y Cwnstabl Ben Cole, swyddog ymchwilio, “Mae troseddau fel y rhain yn brin mewn cymuned fach fel Llangoedmor ac er ein bod yn dilyn nifer o lwybrau ymholi, gall cymorth y cyhoedd drwy fod yn llygaid a chlustiau i ni a chefnogi ein hymchwiliadau gyda gwybodaeth wneud gwahaniaeth enfawr. Byddwn yn apelio at unrhyw un sydd â gwybodaeth, ni waeth pa mor fach y credwch y gallai fod, i gysylltu. “Yn dilyn y digwyddiad hwn rydym wedi cynyddu patrolau yn yr ardal, a gofynnaf i drigolion fod yn ymwybodol o ddiogelwch eu cartref bob amser. Mae cyngor ar gadw'ch cartref yn ddiogel ar gael ar ein gwefan yn https://www.dyfed-powys.police.uk/cp/crime-prevention/ ” Gofynnir i unrhyw un a allai fod wedi gweld unrhyw beth amheus, neu a allai fod ag unrhyw wybodaeth a allai helpu'r heddlu gyda'u hymholiadau gysylltu gan ddyfynnu cyfeirnod 26*44080 naill ai: Ar-lein | www.dyfed-powys.police.uk E-bost | 101@dyfed-powys.police.uk DM | Negeseuon uniongyrchol atom ar y cyfryngau cymdeithasol Ffôn | 101 Fel arall, gallwch ddweud wrthym yn ddienw drwy’r elusen annibynnol Crimestoppers drwy ffonio 0800 555 111 neu ymweld â crimestoppers-uk.org.
| ||
Reply to this message | ||
|
|






